Llenyddiaeth Ffinneg

Llenyddiaeth Ffinneg yw llenyddiaeth fwyaf y Y Ffindir (ceir llenorion iaith Swedeg a Lappeg yn y wlad honno yn ogystal).

Cyn y cyfnod modern roedd y Ffinneg yn iaith lafar yn bennaf. Roedd ganddi draddodiad cryf o chwedlau llên gwerin ar gân a baledi. Cofnodwyd y cylch pwysicaf o'r cerddi hyn, y Kalevala, a'u cyhoeddi gan Elias Lönnrot ganol y 19g. Ers y 1820au mae cannoedd o gerddi gwerin eraill wedi'u casglu. Cyhoeddwyd nifer o'r rhain yn y casgliad anferth Cerddi hynafol gwerin y Ffindir, sy'n rhedeg i 27,000 tudalen mewn 33 cyfrol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search